Mae ‘Heneiddio’n Dda gyda Llyfrgelloedd Cymru’ yn dangos sut mae Llyfrgelloedd Cymru yn gweithio i gefnogi Cymru sydd o blaid pobl hŷn. Rydym eisiau annog cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â’u llyfrgell leol, ac i weld beth sydd gennym i’w gynnig o ran cyfleoedd dysgu, cymorth digidol ac ystod eang o weithgareddau a fydd yn datgloi potensial pobl o unrhyw oedran. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw ailadeiladu hyder pobl hŷn yn dilyn Covid, ac i’w cefnogi i ailgysylltu â’u teuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Mae ein llyfrgelloedd mewn lleoliad perffaith i ddarparu gofod cymunedol sy’n caniatáu i bobl ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd.
Mwynhau bob cam
Mae Llyfrgelloedd Cymru’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n ceisio gwella lles pobl wrth iddynt heneiddio ac yn annog pobl i gyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol waeth beth fo’u hoedran.
Cliciwch i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol
Blaenau Gwent
Caerdydd
Castell-nedd Port Talbot
Gwynedd
Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Rhondda Cynon Taff
Sir Ddinbych
Sir Gaerfyrddin
Sir y Fflint
Cysylltu’n hyderus
Mae Llyfrgelloedd Cymru yn darparu gofodau croesawgar a hygyrch sy’n gallu cefnogi pobl hŷn i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cymdeithasol. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth i wella hyder digidol pobl, gan eu hannog i archwilio’r byd digidol, ond hefyd gallant ddarparu cyswllt hanfodol wyneb yn wyneb sydd yn brin yn y gymdeithas brysur sydd ohoni heddiw.
Eisiau gwybod mwy?
Nodwch eich manylion ar y ffurflen isod er mwyn cael eich rhoi mewn cysylltiad â’ch awdurdod lleol.